1803-1805 | Adeiladu Capel Mair, yn ferch eglwys i Fethel, Trewyddel, fel addoldy i'r Annibynwyr yn Aberteifi. |
1812-1865 | Daniel Davies: brodor o Drewyddel, a weinidogaethodd yma hyd ei ymddeoliad yn 1865, yn 85 oed. |
1865-1874 | William Davies: ordeiniwyd yma yn Ebrill 1865, a derbyniodd alwad i weinidogaethu yn Llandeilo yn 1874. |
1876-1908 | Thomas J. Morris: wedi ei sefydliadau my Mehefin 1876, bu'n weinidog yma hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr 1908 |
1910-1935 | T. Esger James: wedi ei sefydlu yn Chwefror 1910, bu'n weinidog yma hyd ei ymddeoliad yn 1935. |
1939-1977 | D. J. Roberts, B.A., B.D.: wedi ei sefydlu yn Chwefror 1939, bu'n weinidog yma hyd ei ymddeoliad yn Awst 1977. |
1977-1984 | Ieuan Davies, B.A., B.D.: wedi ei sefydlu yn Hydref 1977, bu'n weinidog yma hyd iddo dderbyn galwad i'r Tabernacl, King's Cross, Llundain yn Ebrill 1984. |
1986-1993 | J.Arwyn Phillips, B.A., B.D., M.Th., M.Phil.: wedi ei sefydlu yn Hydref1986, bu'n weinidog yma hyd ei farwolaeth annhymnig ym Mehefin 1993. |
1998- | Irfon C. Roberts, B.A.: sefydlwyd yn weinidog ar eglwysi Capel Mair a Bethania (B), Aberteifi, Ebrill 1998. |