BU FARW I NI GAEL BYW

Afraid dweud ein bod yn byw mewn amserau anodd gyda chynifer yn dioddef ac yn marw o’u heintio gan y Coronafeirws.  Ni chredaf am foment i Dduw ewyllysio i hyn ddigwydd i neb  Yr hyn a gredaf yw ei fod yn ewyllysio siarad â ni ‘nghanol y sefyllfa ddyrys rydym ynddi ar hyn o bryd.  Diddorol sylwi fel mae natur yn ei adnewyddu ei hun o ganlyniad i’r arafu ar ein prysurdeb.  Mae’r awyr a’r afonydd yn lanach, adar i’w clywed yn trydar a chreaduriaid o bob math yn ffynnu ac ymelwa o’r glendid.  Braf gweld pobl, er eu gorfodi gan y sefyllfa i hunanynysu yn closio mwy at ei gilydd ac yn dod yn fwy ymwybodol o’u cyfrifoldeb i ofalu am eraill.  Teimlaf yn ffyddiog y daw daioni o’r cyfan yn y diwedd dim ond i ni fodloni ar glustfeinio ar yr hyn y mae Duw yn ei ddweud wrthym.    

 

Bûm yn gwrando’r dydd o’r blaen ar ddyn ifanc deunaw oed, o’r enw Intisar yn cael ei holi ar y rhaglen newyddion Breakfast TV.  Siaradodd yn bwyllog a doeth ynglŷn â marwolaeth ei dad o haint Covid 19.  Enw ei dad oedd Dr Abdul Mabud Chowdhury.  Pum diwrnod cyn ei farw anfonodd Dr Chowdhry neges at Boris Johnson yn apelio am gyfarpar addas i ddiogelu’r rhai oedd yn ymladd y Coronafeirws yn ein hysbytai a’n cartrefi henoed, heb anghofio, wrth gwrs y rhai hefyd oedd yn gofalu am gleifion mewn tai annedd ar hyd a lled y wlad.  Yn y cyfweliad â Piers Morgan  a Susanne Reid datgelodd Intisar i’w dad gelu ei gyflwr oddi wrtho ef a’i chwaer i’w harbed rhag gofidio amdano.  I did not know about it” meddai.  He really did not nwant to convey his own fears about his own life and the life of his co-workers to me and my sister.”  Ond y frawddeg a ddaeth â deigryn i’m llygaid... a rhaid cyfaddef i mi golli sawl un o’r rheini’n ddiweddar ... oedd hon;  He died so that we could live.”  Ychwanegodd cyn gorffen, “I am so proud of him.”

 

Gan ei bod yn dymor y Groglith a’r Pasg ar adeg ysgrifennu’r myfyrdod hwn, ehedodd fy meddwl yn syth i gyfeiriad Calfaria. Daeth i gof eiriau John Huw Hughes, Llanberis. (Cyfieithiad o’r geiriau Saesneg, “Have you read the Story of the Cross?”) A glywaist ti’r hanes am y Groes, / A’r gwaed ar Galfarî, / Lle talodd Iesu y ddyled fawr / I achub dy enaid di? ... A glywaist ti am y goron ddrain / A roddwyd ar Ei ben? / “Ni wyddant hwy pa beth a wnânt”, / Oedd geiriau Tywysog Nen ... A glywaist ti am y gri a’r loes / Ar fynydd Calfarî? / A ddiolchaist ti iddo’r anwylaf Oen / Am farw drosot Ti? ... Credwn fel ei ddilynwyr mai trosom ni y bu Iesu farw - marw i ni gael byw.

 

Beth ddywed, neu beth ddengys hyn?

 

Dengys, yn gyntaf, fesur ei ymrwymiad.   Gwyddai o’r dechrau ei fod ar lwybr dioddefaint - llwybr a fyddai’n sicr o arwain maes o law at ei farwolaeth.  Fe’i temtiwyd fwy nag unwaith i wyro oddi ar ei lwybr: yn yr anialwch, ar Fynydd y Gweddnewidiad, ac yng Ngardd Gethsemane, ond, yn hytrach nag ildio, dewisodd barhau i gerdded hyd yr un llwybr hyd at y diwedd.  Ymdaflodd ei hun yn llwyr i’w waith - y gwaith o gyflawni ewyllys ei dad - marw i ni gael byw.   O na fyddem ni mor ymroddedig ag yntau yn ein gwaith drosto!  Diolchwn heddiw i’r meddygon a’r nyrsys a’r myrdd gofalwyr ar hyd a lled y wlad sydd yn dangos ymrwymiad tebyg i’w galwad o achub bywydau pobl eraill

 

Dengys, yn ail, fawredd ei fwriad.  Nid diamcan ei farwolaeth Ef.  Llawenydd yw medru dweud na thywalltwyd un diferyn o’i waed yn ofer.  Marw er mwyn a wnaeth.  Bu farw, “er mwyn maddau bai ...”  Bu farw, “... i’r brwnt gael bod yn lân.” Bu farw er mwyn dangos i ni esiampl  .. “Canys i hyn y’ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef.”  Gadawodd ar ein cyfer esiampl mewn ufudd-dod, goddefgarwch, gostyngeiddrwydd a maddeugarwch. “Ble bu rhinweddau fel y rhain / erioed o’r blaen dan goron ddrain?  Anodd meddwl am un bwriad mwy canmoladwy mewn bywyd nag achub eraill rhag marwolaeth.   

 

Dengys, yn drydydd, faintioli ei gariad.  Rhaid cadw mewn cof iddo farw dros bechaduriaid. “Dros bechadur buost farw, / Dros bechadur ar y pren, / Y dioddefaist hoelion llymion / Nes it orfod crymu pen ..”  Dengys y Groes ddyn fel y mae.  Dengys waeledd ei gyflwr - ei hunanoldeb a’i greulondeb.  Dengys hefyd Dduw ar ei orau - maintioli difesur ei gariad at annheilwng ddyn.  Pwy all fesur maint ei gariad, / a rhinweddau maith ei ras?  Un o’r pethau i’w hedmygu yn fawr ynglŷn â’r rheiny yn y byd meddygol yw na chlywir nemor un ohonynt yn holi, “A yw hwn neu hon yn haeddu cael gwellhad?”  Yr hyn sy’n bwysig  yw achub bywyd gan fod pob bywyd iddynt yn werthfawr, yn rhywbeth i’w ddiogelu a’i drysori.  Er bod yr hyn a gyflawnodd Iesu drwy ei ddioddefaint, ar un olwg, yn gwbl unigryw - cyflawnodd waith na fedrai neb arall ei gyflawni - dylid cofio fod yr hyn a wnaeth  drosom yn dyrchafu gwerth bywyd pob dyn gan gofio wrth gwrs fod yr hynna  olygai Iesu wrth fywyd yn fwy na mater o gadw corff yn weithredol.  Golygai hefyd achub a chadw enaid.

 

Clodforwn fyth yr Iesu gwiw,   

Bu farw gynt i ni gael byw.

He died so that we could live ... I am so proud of him.”  Pob clod i Intisar am fynegi balchder o’i dad.  Beth am i ni dderbyn ein dysgu ganddo a datgan balchder o’n Gwaredwr bendigedig? 

Nid oes arnaf g’wilydd o’i groes                                                                                         

ei groes yw fy nghoron o hyd:                                                                               

ei fywyd i’m gwared a roes ...

Bu farw i ni gael byw. O, ryfedd ras!  Amen.

Irfon Roberts -  Gweinidog

Gweddi:

Ti fu gynt yn gwella’r cleifion,
Feddyg da,
dan eu pla
trugarha wrth ddynion.

Cofia deulu poen, O Iesu:
ymhob loes
golau’r groes
arnynt fo’n tywynnu.

Llaw a deall dyn perffeithia,
er iachâd
a rhyddhad,
Nefol Dad, i dyrfa.

Rho dy nodded, rho dy gwmni
nos a dydd
i’r rhai sydd
ar y gwan yn gweini.

Dwg yn nes, drwy ing a phryder,
deulu poen,
addfwyn Oen,
at dy fynwes dyner.  Amen.       

ELFED, 1860-1953  (Caneuon Ffydd 823)

 
 
Screen Shot 2020 05 05 at 19.31.42 
 
 

 

© Hawlfraint Capel Mair    Adref  |  Polisi Preifatrwydd