2 Samuel 2241 / Salm 1840

Gosodaist fy nhraed ar eu gwddf ...

Mwy na thebyg i mi ddarllen y geiriau yma lawer tro heb dalu unrhyw sylw iddynt o’r blaen.  Wrth eu darllen y tro yma, fodd bynnag, cefais eu bod yn hawlio fy sylw ac yn fy  herio i’w hystyried.  Gwylio eitem newyddion ar y teledu a esgorodd ar hyn, eitem sydd bellach wedi hawlio llawn cymaint o sylw’r cyfryngau â’r pandemig Coronafeirws.  Nid gormod yw dweud i’r hyn a welsom yn digwydd o flaen ein llygaid yn Minneapolis ddwyn pandemig arall sydd ar gerdded i sylw’r byd - un a fu gyda ni llawer yn hirach na Covid-19 - sef y firws erchyll a hynod hyll yn dwyn yr enw ‘hiliaeth’.  Nid na wyddem amdano ynghynt.  Y ffaith amdani yw i ni ddewis cau ein llygaid a’n clustiau iddo.  Pam gadael iddo’n haflonyddu a ni heb ein heffeithio ganddo?  Ar y llaw arall efallai i ni dderbyn ein twyllo i feddwl bod yr haint wedi diflannu o ganlyniad i ymdrechion arwrol rhai fel Mahatma Gandhi, Martin Luther King, Nelson Mandela a’r Archesgob Desmond Tutu.  Gwnaed yn glir gan yr hyn ddigwyddodd i George Floyd yn Minneapolis fod firws hiliaeth ymhell o’n gadael. 

 

Ar ddydd Llun, 25 Mai, lladdwyd George Floyd, 46 oed, gan heddwas.  Honnir i Mr Floyd gael ei arestio am ddefnyddio bil 20 doler ffug, ac iddo, gan iddo wrthwynebu ei arestio, eu gorfodi i’w atal.  Dengys lluniau fideo un heddwas yn penlinio ar wddf Mr Floyd am yn agos i naw munud.  Er iddo brotestio ei fod yn teimlo’n glawstroffobig a’i fod yn methu ag  anadlu, ac iddo alw ar ei fam, ac er i rai o’r dyrfa ymwedd ar yr heddwas i ganiatáu iddo anadlu, fe’i tagwyd i farwolaeth.  Bellach mae’r heddwas, Derek Chauvin, wedi’i ddiswyddo a’i gyhuddo o lofruddiaeth. Yn ogystal, cyhuddwyd yr  heddweision eraill oedd yn dystion i’r digwyddiad o gynorthwyo yn llofruddiaeth Mr Floyd.   

 

Arweiniodd marwolaeth George Floyd at danio tensiwn hiliol yn America.  Nid tân newydd mohono, ond tân a fu’n mudlosgi dan yr wyneb ac sydd yn mynnu ymfflamychu bob hyn a hyn. O fewn oriau i’r digwyddiad yr oedd strydoedd dinasoedd ar draws America yn llawn protestiadau.  Gwelwyd llosgi baneri, gan gynnwys baner America ei hun, ac adeiladau, yn ogystal â dymchwel a malurio cerfluniau a chofgolofnau rhai o enwogion hanes a chanddynt gysylltiad â marchnad caethwasiaeth  yn y gorffennol.  Ymledodd y gwrthdystiad ar draws y gwledydd gan gynnwys Prydain a chofir am hir yr olygfa ym Mryste o gerflun y masnachwr caethion Edward Colston (1636-1721) yn cael ei ddymchwel a’i ddifrodi a’i daflu’n ddiseremoni i’r môr.  Cynhaliwyd rhai protestiadau yng Nghymru gan gynnwys dinasoedd Caerdydd ac Abertawe a threfi fel Caernarfon a Port Talbot.  Gweld cynifer o bobl wynion ymysg y protestwyr yn gorymdeithio ochr yn ochr â’u brodyr duon oedd yr hyn a’m calonogodd fwyaf yn y sefyllfa.  Yn anffodus nid oedd pob un o’r gorymdeithiau protest yn heddychlon a di-drais.  Gellir ein denu gan dorf i wneud pethau na freuddwydiem eu gwneud ar ein pen ein hunain ac mae gofyn ein rhybuddio a’n hatgoffa o’r perygl o gael ein  cario ganddi.  Meddai Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, mewn llythyr a anfonodd at weinidogion ac arweinwyr eglwysi ei henwad, “Gallwn ddeall teimladau’r protestwyr oherwydd rhaid cofio nad yw’r darlun yn fêl i gyd yma yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfunol. Ar ddechrau mis Mai eleni, adroddwyd fod achosion o hiliaeth ar gynnydd ar ein rheilffyrdd gydag ymosodiadau hiliol yn gadael dioddefwyr yn teimlo’n anniogel mewn llefydd cyhoeddus. Yn ogystal, cawsom ein tristáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan y sgandal Windrush lle gorfodwyd llawer o bobl dduon oedd wedi byw ym Mhrydain ers blynyddoedd lawer i ddychwelyd i’w gwlad enedigol.  At hynny dengys data o’r Swyddfa Gartref bod pobl ddu eu croen yn llawer mwy tebygol o gael eu harestio na phobl wynion.” 

 

Gellir, fe ellir deall, ond ai trais yw’r ateb?  Casineb a fag gasineb. Gwelodd rhai, yn sgil y protestiadau, gyfle i achosi difrod ac ychwanegu olew at y tân.  Dechreuodd cenawon peryglus yr Adain Dde eithafol ystwytho eu cyhyrau a gwenwyno’r awyr â’u hysbryd maleisus.  Pa gysondeb sydd mewn hawlio iddynt amddiffyn cerflun o Winston Churchill “oherwydd iddo’n hachub rhag y Natsïaid” ac ar yr un adeg ddangos eu hatgasedd o bobl dduon trwy ddefnyddio'r Natsi saliwt?   Golygfa ryfedd arall oedd honno yn Washington D.C.  pan alwodd yr Arlywydd Donald Trump y protestwyr yn “thugs” ... nid y math o iaith sydd yn debygol o dawelu dyfroedd  ... a galw ar y Gwarchodlu Cenedlaethol (National Guard) i symud y protestwyr o’r ffordd iddo allu cyrraedd eglwys gyfagos i gondemnio’r protestiadau. Hir yr erys yr olygfa ohono yn sefyll y tu allan i’r eglwys yn codi Beibl ei fam i’r awyr: llyfr nad yw’n ei ddarllen, eglwys nad yw yn ei mynychu, achub mantais o gyfle i gyhoeddi egwyddorion nad yw’n fwriad ganddo eu cadw.  Diau i Emyr Lewis, wrth iddo roddi mynegiant i’w amheuaeth  o gymhelliad yr Arlywydd, ddatgan yr hyn oedd ar feddwl nifer ohonom: 

 

Y mae ymhlith amheuwyr ryw bryder,

i greithio yr ysgrythur.

deil y dwrn a’r dwylo dur 

greithio yr ysgrythur.

 

 

O ganlyniad i’r hyn a ddigwyddodd i George Floyd daeth mudiad pwerus a phenderfynol yn dwyn yr enw “Black Lives Matter”  i fodolaeth. Er cydymdeimlo a chefnogi eu hamcanion yn llwyr teimlais braidd yn anniddig ar y dechrau ynghylch yr enw.  Pam bywydau duon yn unig?  Onid gwell fyddai datgan fod bywydau pawb o bwys - waeth beth eu hiaith a’u lliw a’u diwylliant?  Tarddom i gyd o’r un ddaear.  Crëwyd ni gyd o un gwaed.  “Gwnaeth o un dyn hefyd yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear ...”  “Nid oes” yn y deyrnas y cawsom ein galw i’w sefydlu “nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw, canys chwi oll ydych yn un yng Nghrist.”   Er yn gymharol glir i ni erbyn hyn fe gymerodd ganrifoedd i’r Eglwys fynd i’r afael â chwestiwn caethwasiaeth a dod i benderfyniad cywir ar fater sydd wedi achosi cymaint o ddioddefaint i filiynau yng nghwrs y canrifoedd.  Rhaid cyffesu nad yw dwylo’r Eglwys yn lân a bod gan Gristnogion achos i edifarhau am eu rhan yn cynnal yr arfer,  y sylweddolwn erbyn hyn, oedd ac y sydd wrth gwrs yn para’n gwbl wrthun a ffiaidd. Nid Trump yw’r enghraifft gyntaf na’r un olaf mae’n siŵr o rai’n camddefnyddio’r ysgrythur mewn ymgais i gyfiawnhau eu safbwynt.  Gyda siom y darllenais i bregethwr mor hynod effeithiol a phoblogaidd â Charles Haddon Spurgeon gefnogi caethwasanaeth yn frwd a cheryddu’n llym y rheini, ar y pryd, oedd yn wrthwynebol i’r system a gydnabyddir yn gyffredinol heddiw yn system ddieflig.  Nid ef yw’r unig un y gellid ei enwi.  Gwnaeth Cristnogion eraill eu gorau i gynnal yr hen drefn - trefn a ystyrid am ganrifoedd yn hanfodol i ffyniant economi a chynhaliaeth cymdeithas.  Mae’r datganiad a ymddangosodd ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn cefnogi ymgyrch “Mae Bywydau Du o Bwys” i’w groesawu: “Mae’r digwyddiadau presennol yn yr Unol Daleithiau wedi tynnu sylw’r byd at anghyfiawnder eithafol goruchafiaeth y dyn gwyn a hiliaeth.  Wrth herio hiliaeth y mae gan yr Eglwys lawer i’w ddysgu ac i edifarhau amdano.  Fodd bynnag y mae’r ffydd Gristnogol yn glir fod pawb yn gyfartal o flaen Duw ac yn cael eu gwerthfawrogi.  Wedi’n brawychu gan lofruddiaeth George Floyd, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i weithio gydag eraill i frwydro yn erbyn hiliaeth.  Rydym yn datgan, yn ddigamsyniol fod Bywydau Du o Bwys.”

 

Mae Vaughan Roderick yn un o fy hoff newyddiadurwyr.  Ymhen ychydig wedi’r helynt yn America fe ymddangosodd erthygl ganddo ar ap Cymru Fyw yn ein hatgoffa i system caethwasiaeth dreiddio yn ddwfn i fywyd Cymru.  Nid i’r un radd â Lloegr, efallai, ond digon i’n sicrhau nad oes le gennym ymfalchïo. Noda fel esiampl deulu’r Barhams: teulu o Loegr a etifeddodd stad Trecŵn trwy briodas.  Derbyniodd y Barhams 14,240 o bunnoedd, 4 swllt a 7 ceiniog i’w digolledi am y 780 o gaethweision gafodd eu rhyddhau ar stadau’r teulu yn Jamaica.  Meddai Vaughan Roderick ... a hon i mi yw’r frawddeg ddamniol ...  “Mae’n adrodd cyfrolau am ein gorffennol ymerodrol taw’r perchnogion gafodd eu digolledi.  Doedd na’r un botwm crwn i’r rheini  oedd wedi dioddef dan y lach.”  Rhydd Vaughan enghreifftiau eraill: Frances Batty Shand a adeiladodd ysgol  i ddeillion yng Nghaerdydd; teulu Castell Penrhyn, a Nathaniel Wells, Casgwent.  Ac, wrth gwrs, yr arwr rhamantus. Bartholomew Roberts, mwy adnabyddus fel “Barti Ddu o Gasnewy’ Bach, y morwr tal a chwerthiniad iach.”  Un arall tebyg iddo, Syr Harri Morgan, arwr Trysor y Plant, T. Llew Jones.  O ddod wyneb yn wyneb â’n gorffennol fel hyn deuwn i sylweddoli nad trigolion Bryste a Lerpwl yn unig ddylai fod yn ystyried eu rhan yn y stori. 

 

Nid fy mwriad yw trafod hanes na phwyntio bys.  Fy mwriad yn hytrach yw ceisio ein hannog i edrych ar ein hunain a holi, nawr ein bod yn gwybod,  ble neu beth nesaf?  Wrth fy mod i yn meddwl am hyn daeth i gof rhai o eiriau Martin Luther King.  Er mor ymwybodol â neb o ddioddefaint y dyn du mynnu edrych ymlaen a wnaeth ef.   Cofiaf iddo holi unwaith, “Where do we go from here?  Yr union gwestiwn sydd yn ein hwynebu ni.  Wedi’r holl ddannod a phrotestio a gorymdeithio, wedi’r holl gyhuddo a chrochlefain a chyfnewid geiriau hallt, ble nesaf o’r fan hon?   Mae gennym un o ddau ddewis.  Yng ngeiriau Martin Luther King, “Chaos or community.”  Anhrefn neu gymuned.  Does dim dewis arall gennym.  Naill ai ein bod yn dysgu byw â’n gilydd neu yn y pendraw yn difetha’n gilydd.  Os am fyw â’n gilydd rhaid dod i’r fan lle y credwn fod bywydau pawb - waeth pwy - o bwys. 

 

Camgymeriad serch hynny fyddai argymell gwneud  i ffwrdd â’r slogan, “Mae Bywydau duon o bwys.” Pam hynny?  Am y rheswm syml fod cydnabod gwerth pob bywyd du yn gam i’r cyfeiriad o gydnabod gwerth pob bywyd.

 

Efallai i chi weld, ar eich teledu, ddarluniau o sgarmes yn Parliament Square, Llundain.  Roedd cynrychiolaeth gref o’r Adain Dde wedi ymgasglu yno gyda’r bwriad o wrthsefyll unrhyw ymgais i ddifrodi cerflun Churchill.  Hefyd yn bresennol oedd cynrychiolaeth o Fudiad “Black Lives Matter”.  Trodd yr awyrgylch yn gas a dechreuwyd ymladd.  Trawyd dyn gwyn, un o’r Adain Dde, i’r llawr ac yr oedd o fewn dim i gael ei ladd, pan gamodd dyn du ymlaen, ei godi ar ei ysgwydd a’i arwain i ddiogelwch.  Er nad oedd ganddo olwg ar y  dyn oherwydd ei ddaliadau, fe achubodd ei fywyd.  Pam?  Awgrymaf ddau reswm. Nid oedd am i’w frodyr duon gael eu cyhuddo ar gam o fynd allan o’u ffordd i achosi helynt yn fwriadol. Ond roedd hefyd yn credu fod gan hyd yn oed ei wrthwynebwr milain hawl i fyw.        

 

Pwysig cadw mewn golwg nad merthyr mo George Floyd.  Y mae merthyr yn rhywun sydd yn marw o’i fodd dros achos, y cred ef, sydd yn fwy na’i hunan.  Aderyn brith iawn oedd George wedi’r cyfan, un a dorrodd y gyfraith fwy nag unwaith  mewn ffyrdd difrifol iawn.  Ond, y mae ei farwolaeth a dull ei farwolaeth i’w nodi a’i gofio am ei fod yn adlewyrchu pandemig sydd yn rhemp yn ein cymdeithas.  Boed i ni chwarae’n rhan yn y frwydr i’w ddiddymu’n llwyr.

 

Y mae’n dda gweld cynifer yn syrthio ar un pen-glin fel datganiad o gefnogaeth a chydymdeimlad ac awydd gweld newid.  Ond onid gwell fyddai i ni syrthio ar ddwy ben-glin mewn gweddi i erfyn am nerth y Goruchaf yn y frwydr bwysig hon?  Yn wyneb hyn oll gadewch i ni  ymuno  i weddïo gyda’r Parchedig Judith Morris (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru),                                                                                                                                                                  

 

O Dduw ein Tad, a thad ein Harglwydd Iesu, cyflwynwn ger dy fron bobl yr Unol Daleithiau.  Cofiwn yn arbennig am deulu George Floyd a phob teulu arall a gollodd anwyliaid mewn sefyllfaoedd tebyg. Maddau inni am yr hiliaeth sy’n bodoli yn ein byd. Gweddïwn dros Gymru a’n hawydd dwfn i greu gwlad sydd yn rhydd o hiliaeth. Diolchwn iti am y rhai sy’n codi llais yn erbyn y fath anghyfiawnder ac yn gweithio’n ddyfal dros bawb sy’n cael eu gormesu. Glanha ein calonnau o’r drygioni hwn a phâr inni weld dy gariad dwyfol di ym mhob un brawd a chwaer beth bynnag fo lliw eu croen. Amen.”

 

 

© Hawlfraint Capel Mair    Adref  |  Polisi Preifatrwydd