Daeth tymor arall o’r Gymdeithas Ddiwylliadol i ben drwy gynnal ein barbiciw blynnyddol ym Mhentwd cartref Ann a Dilwyn ac maen diolch iddynt am ein croesawu unwaith eto ac am eu gwaith caled yn paratoi ar ein cyfer.
Bu’r (chefs) Gareth a Delwyn yn brysur yn coginio byrgers, stec a selsig gyda cymorth y merched a oedd wedi paratoi’r wledd o’n blaen ar y byrdda
Diolchwyd i bawb gan Dyfed llywydd y gymdeithas a cyflwynwyd tusw o flodau i Ann gan Geinor ein ysgrifenyddes.
Diolch am noson braf o heulwen haf, y cwmni diddan a’r cymdeithasu o gylch y byrddau.
Diweddglo arbennig i dymor llwyddiannus iawn .