Nos Fercher, Gorffennaf 3. daeth oddeutu 30 o aelodau y Gymdeithas at ei gilydd i fwynhau barbeciw ar aelwyd Gareth a Mer Evans, Tegryn, Llangoedmor. Derbyniwyd croeso twym galon gan y ddau a darparwyd gyda chymorth cyfeillion wledd o ddanteithion ar ein cyfer.
Mawr oedd y mwynhad gafwyd wrth flasu tri math o gig wedi eu coginio'n ofalus gan y dynion a'r pwdin roulade a tharten afal - paned o de a bara brith a pice ar y maen i goroni'r cyfan.
Y mae hon yn noson a gynhelir yn flynyddol ac edrychir ymlaen yn eiddgar at yr un nesaf. Noson at ddant, ac wrth fodd calon paw, gyda phob un yn ymlacio wrth gymdeithasu o gylch y byrddau mewn awyrgylch gwbl anffurfiol.
Diolch am gwmni diddan a hapus y ffyddloniaid.