Cafwyd oedfa arbennig ar nos Sul Rhagfyr 22 yng nghwmnni ieuenctid a phlant yr egwyl. Creuwyd naws y Nadolig mewn darlleniadau ac eitemau a'r gynulleidfa yn ymuno i ganu'r carolau. Cyflwynodd y Parchedig Irfon Roberts cerdyn a rhodd ar ran yr Eglwys i Mrs Ann Vittle i ddangos ei gwerthfawrogiad o’i hymrwymiad i’r Ysgol Sul ar hyd yr holl flynyddoedd. Cyfarchiwyd hi mewn pennillion gan Ken Griffiths Y Graig.
Bydd rhai yn cael y doniau
I lonni plant di-ri,
Drwy ddweud am stori'r Iesu
A'i gariad atom ni.
A'ir hanes yn eu cymell
I droedio'r llwybr cul,
Oherwydd iddynt gofio
Am wersi'r Ysgol Sul.
Mae diolch sawl cenhedlaeth
Fan yma'n dal mor driw,
Am i chi roi o'ch calon
A'u gwneud yn blant i Dduw
Cyflwynodd y gweinidog Feibl i bob un a gymerodd rhan yn yr oedfa. Cafwyd cyfle i gymdeithasu dros cwpaned o de a mins pei ar ddiwedd yr oedfa.
Dathlu’r Nadolig yng nghwmni plant a phobl ifanc yr Eglwys.