Ar ddydd Sul yr 22ain o Fehefin bu’r gweinidog Y Parchedig Irfon C. Roberts yn pregethu yng Nghapel Soar y Mynydd.
Teithiodd nifer o aelodau Capel Mair, Bethania a Penparc i ymuno yn yr oedfa.
Mae’n siwr i bawb dderbyn bendith o fod yn yr oedfa ac yn ôl cerdd Alwyn Thomas ‘wedi teimlo nefol hedd’ o gael profi yr awyrgylch tawel a llonydd sy’n perthyn i’r lle.
Criw Capel Mair a Bethania y tu allan i’r capel cyn mynd ymlaen i fwynhau swper blasus yng Ngwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn.
Cyfansoddwyd yr englyn yma gan aelod o’r capel, Emyr Oernant.
‘Ein Duw mewn bro dawel – hen allor
Cwm pell y tir uchel
Yma o hyd roedd ymhêl
A’i hachos yn anochel’