Teithiodd nifer o aelodau Capel Mair, Bethania, Ffynnonbedr a ffrindiau i Gapel Soar y Mynydd. Wel dyma hyfryd fan i droi at Dduw.
Ar ddydd Sul Gorffennaf y 19eg bu'r gweinidog Y Parchedig Irfon C. Roberts yn pregethu yng Nghapel Soar y Mynydd. Mae awyrgylch arbennig yn perthyn i'r lle a cafwyd bendith o fod yn yr oedfa.
Criw Capel Mair, Bethania, Ffynnonbedr a ffrindiau y tu allan i’r capel cyn mynd ymlaen i fwynhau swper blasus yng Ngwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn.