Cafwyd dechreuad arbennig i dymor y Gymdeithas Ddiwylliadol yng nhwmni athrawon a mammau yr Ysgol Sul . Wedi cymdeithasu o gylch y byrddau i fwynhau Swper y Cynhaeaf a baratowyd gan Lynne estynnwyd croeso cynnes i'r merched. Cafwyd hwyl chwerthin a dipyn o grafu pen wrth i'r timau ddyfalu a cheisio ateb cwestiynau ar y synhwyrau .
Y bwrdd cydenwadol Rhidian, Dan, Eleanor, Sheila, Gareth a Meinir ddaeth i'r brig.
Diolch i Sian, Anwen, Catrin Wyn, Catrin Jones, Rachel, Jane a Nia am noson i'w chofio