Aeth blwyddyn arall heibio a dyma'r Gymdeithas Diwylliadol yn dathlu diwedd tymor llwyddiannus drwy gynnal barbeciw ym Mhentwd trwy garedigrwydd Ann a Dilwyn Vittle. Mae hon yn noson boblogaidd iawn ac yn gyfle i fwynhau'r gwmniaeth a'r cymdeithasu o gylch y byrddau. Cafwyd gwledd i'w fwyta wedi ei goginio gan Geinor a Gareth E.
Ar ddiwedd y noson cyflwynodd Geinor flodau i Ann fel arwydd o'n diolch.
Diolchwyd i bawb gan llywydd y Gymdeithas, Rhidian a'r Parchedig Irfon Roberts.
Ar ddiwedd y noson rhaid golchi'r llestri a diolch i Sian a Dyfed am eu gwaith yn y sinc.