Ar nos Iau Hydref 20 daeth aelodau'r Gymdeithas Ddiwylliadol ynghyd i gyfarfod cyntaf y tymor i fwynhau Swper y Cynhaeaf a baratowyd gan Lynne a'r merched .
Wedi gwledda a chymdeithasu o gylch y byrddau croesawodd y llywydd Dr Dyfed Elis Griffiths gwestau'r noson y brodyr Daniel a Jack Ramsbottom - ddau yn bencampwyr ar chwarae offerynnau pres a cawsom wledd yn gwrando ar y ddau frawd talentog yn ein diddanu drwy chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth i gyfeiliant Sarah Jane Absalom ar y delyn .
Cawsom ein swyno ar ddatganiad Sarah Jane ar y delyn. Yn wir roedd yn noson i'w chofio a dechreu arbennig i dymor y Gymdeithas.
.