Mae aelodau’r Gymdeithas Ddiwylliadol yn edrych ymlaen at y Barbeciw blynyddol sydd erbyn hyn yn ddyddiad pwysig yng nghalendr y Gymdeithas ac yn ddiweddglo hapus i weithgareddau’r tymor.
Mae’r diolch eleni eto i garedigrwydd Ann a Dilwyn Vittle am ein croesawu unwaith eto i Bentŵd ac am eu gwaith caled yn paratoi ar ein cyfer.
Ar noson braf o haf, wedi mwynhau’r wledd, braf oedd cymdeithasu o gylch y byrddau.
Diolch i’r ‘chefs’ Gareth a Delwyn ac i’r merched a fu’n brysur yn paratoi’r wledd ar ein cyfer. Noson hapus a hwylus yng nghwmni’n gilydd.