Ar fore Sul, 25ain o Fehefin, teithiodd aelodau Capel Mair, Bethania, Penparc a ffrindiau ar eu pererindod flynyddol i Gapel Soar y Mynydd ger Tregaron.
Y Parchedig Irfon Roberts oedd yn pregethu a chymerwyd y rhannau arweiniol gan Ann Vittle a Meinir Jerman.
Braf oedd cael cwmni cyfeillion o Grymych a Phontrhydfendigaid yn yr oedfa. Mae yna awyrgylch arbennig yn perthyn i’r capel bach hynafol a da oedd bod yn yr oedfa.
Mwynhawyd pryd o fwyd blasus yn Ffostrasol ar y ffordd adref.