Newyddion Diweddaraf
- Details
Rhoddion diweddar
Gweinidog Capel Mair, Aberteifi, y Parchg Irfon Roberts, a swyddogion yr eglwys yn cyflwyno cyfanswm o £900, sef rhoddion o £225 yr un i bedair elusen: Banc Bwyd Aberteifi, Clefyd Parkinson’s, Cartref Nyrsio Glyn Nest (Castellnewydd Emlyn), a Chronfa Lymphoma Leukaemia Myeloma Ysbyty Singleton. Elw yw’r arian o gasgliad rhydd yr eglwys yn ystod 2022.
- Details
Cymdeithas Ddiwylliadol Capel Mair
Cymdeithas Ddiwylliadol Capel Mair yn mwynhau prynhawn yn y Salutation, Felindre Farchog.
- Details
Wyn Jenkins yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed
Bu’n dathlu gyda’i deulu a’i ffrindiau.. (Gwelwch ei fod yn browd iawn i dderbyn cyfarchiad o Gapel Mair.)
- Details
Parti dathlu pen-blwydd Mrs Iris Smith
Parti dathlu pen-blwydd Mrs Iris Smith yn 100 oed yng Nghartref Brondesbury, Aberteifi, 11 Medi 2021. Ymaelododd Mrs Smith a’i phriod, y diweddar Sidney Smith, yng Nghapel Mair, ar Sul y Pasg, Ebrill 1963. Bu’r ddau ohonynt yn ffyddlon a gweithgar yn ein plith.